
Pensaernïaeth (Rhan amser) (BSc Anrh)
Mae pensaernïaeth yn ymwneud â siapio’r byd o’n cwmpas, gan greu mannau i bobl fyw, gweithio a rhyngweithio. Mae penseiri yn dylunio adeiladau a lleoedd, gan droi syniadau’n strwythurau ymarferol, go iawn. Maent yn gweithio gyda pheirianwyr, adeiladwyr ac arbenigwyr eraill i greu amgylcheddau sy’n ymarferol ac yn hardd, gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd ac arloesedd.
Mae ein BA Pensaernïaeth rhan-amser yn cynnig ffordd hyblyg i astudio pensaernïaeth, sy’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n cydbwyso ymrwymiadau eraill. Byddwch yn archwilio syniadau pensaernïol sydd wedi’u gwreiddio mewn diwylliant lleol ond sydd hefyd edrych ar bethau o safbwynt byd-eang. Bydd y cydbwysedd hwn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth gref o ddulliau pensaernïol traddodiadol a modern.
Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB). Mae’n darparu’r cymhwyster cyntaf (Rhan Un) sydd ei angen i ddod yn bensaer cofrestredig, gan ddechrau eich taith i yrfa broffesiynol mewn pensaernïaeth.
Ar y rhaglen hon, byddwch yn dysgu cydbwyso dylunio creadigol â datrys problemau ymarferol. Mae’r cwrs yn pwysleisio sut y gall pensaernïaeth ddiwallu anghenion pobl a chymunedau wrth ddefnyddio’r technoleg adeiladu diweddaraf ac egwyddorion dylunio cyfoes. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddylunio mannau sy’n parchu diwylliant, treftadaeth a’r amgylchedd lleol.
Mae’r amgylchedd dysgu yn y stiwdio yn allweddol i’r cwrs. Byddwch yn datblygu eich sgiliau dylunio llaw rydd, arolygu, CAD (Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur), a gwneud modelau. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau bach, gan archwilio a mireinio’ch dyluniadau wrth ddatblygu eich meddwl beirniadol a chreadigol. Bydd y diwylliant stiwdio hwn yn eich helpu i feithrin dull dylunio unigryw, gyda chefnogaeth adborth gan gyfoedion a thiwtoriaid.
Nid creu adeiladau yn unig yw diben pensaernïaeth—mae’n ymwneud â dylunio mannau sy’n gwasanaethu pobl, yn parchu traddodiadau, ac yn gweddu cymeriad cymuned. Bydd y cwrs rhan-amser hwn yn eich helpu i ddeall sut i gyfuno’r elfennau hyn â thechnoleg fodern a dylunio cynaliadwy, gan roi’r sgiliau i chi greu mannau arloesol a swyddogaethol.
Drwy ddewis y rhaglen hon, byddwch yn cychwyn ar y daith broffesiynol i ddod yn bensaer. Mae’n darparu sylfaen ar gyfer astudio a chymwysterau proffesiynol pellach, gan eich helpu i ennill y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y maes cyffrous hwn.
Mae’r Radd BSc (Anrh) Pensaernïaeth wedi’i rhagnodi ar hyn o bryd gan yr ARB (y Bwrdd Cofrestru Penseiri) ar lefel Rhan 1 at ddibenion cofrestru fel Pensaer yn y DU. Mae’r ARB yn adolygu ei ofynion cofrestru, gan ddileu’r angen am gymhwyster israddedig mewn pensaernïaeth. O ganlyniad, bydd rhagnodi’r ARB o gymwysterau Rhan 1 yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2027. Bydd myfyrwyr sy’n dechrau’r cwrs gradd Pensaernïaeth BSc (Anrh) o Fedi 2025 yn graddio oFehefin 2028, ar ôl i ragnodi’r ARB ar Ran 1 ddod i ben. Felly, ni fydd eu gradd yn ddyfarniad a ragnodir gan yr ARB. Serch hynny, bydd y rhaglen yn parhau i fapio i feini prawf yr ARB. Yn ogystal, bydd y radd BSc (Anrh) Pensaernïaeth yn parhau i gael ei dilysu gan RIBA (Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain) yn Rhan 1. Bydd RIBA yn parhau i ddilysu cymwysterau pensaernïaeth yn Rhannau 1, 2, a 3, sef y llwybr arferol i Aelodaeth Siartredig RIBA.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
£9250 y flwyddyn (myfyrwyr cartref)


Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Wrth addysgu pensaernïaeth mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar gydbwyso creadigrwydd, sgil technegol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Rydym yn credu mewn dysgu mewn ffordd ymarferol yn y stiwdio lle byddwch yn datblygu eich dull dylunio eich hun wrth feistroli’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i lwyddo. Mae’r dull hwn yn meithrin meddwl yn feirniadol, cydweithredu ac arloesi, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol ym maes pensaernïaeth.
Byddwch yn archwilio hanfodion dylunio pensaernïol, gan ddysgu sgiliau allweddol fel lluniadu llaw rydd, arolygu a CAD (Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur). Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i egwyddorion technoleg adeiladu a dylunio cynaliadwy. Gan weithio mewn grwpiau bach, byddwch yn dechrau datblygu eich prosiectau dylunio, gan archwilio sut i gyfuno ymarferoldeb â chreadigrwydd.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o theori ac arfer pensaernïol. Byddwch yn canolbwyntio ar greu prosiectau dylunio mwy cymhleth, mireinio eich sgiliau mewn gwneud modelau, cyfansoddi graffig, ac offer digidol. Mae’r flwyddyn hon hefyd yn canolbwyntio ar arfer proffesiynol, gan eich paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn ym maes pensaernïaeth. Erbyn diwedd y flwyddyn, byddwch wedi datblygu portffolio cynhwysfawr sy’n arddangos eich dull dylunio unigryw.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar gymhwyso popeth rydych wedi’i ddysgu i brosiect dylunio mawr. Bydd hyn yn dangos eich gallu i greu dyluniadau arloesol, cynaliadwy a sensitif yn ddiwylliannol. Byddwch hefyd yn ymgysylltu â modylau arfer proffesiynol, gan baratoi ar gyfer y camau nesaf yn eich gyrfa bensaernïol, gan gynnwys y cyfle i ddilyn cymwysterau pellach neu ymuno â’r gweithlu.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
128 o Bwyntiau Tariff UCAS - e.e. Safon Uwch: ABB, BTEC: DDD, IB: 34
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.TGAU
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.
Cyngor a Chymorth DerbynEfallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith SaesnegOs nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Caiff gwaith prosiect dylunio ei asesu ar sail portffolio o waith sy’n cynnwys cyfres o aseiniadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn.
Bydd y portffolio yn cynnwys darluniau, ffotograffau o fodelau ac adroddiadau ysgrifenedig â darluniau. Rhoddir adborth ar gynnydd myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn – fel arfer ar ffurf sylwadau llafar gan dîm o diwtoriaid wedi’i seilio ar gyflwyniadau myfyrwyr a’i asesu drwy adolygiad gan gyd-fyfyrwyr. Gwneir asesiad ffurfiannol ar ddiwedd pob prosiect – fel arfer ar ffurf marc dros dro, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ymateb i adborth cyn cyflwyno’r portffolio pan gwneir yr asesiad terfynol (neu ‘grynodol’).
Bydd asesiadau gwaith yn y modylau cyd-destunol ar ffurf ymarferion ymarferol yn ystod y flwyddyn, adroddiadau a thraethodau ac asesiadau dan gyfyngid amser ar ffurf profion ac arholiadau ffurfiol.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunydd ar gyfer modylau, fel y Prosiect Mawr, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff unrhyw effaith ar y radd derfynol a gyflawnir.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gael ei rhagnodi/dilysu gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) yn rhan o gymhwyster Rhan Un mewn pensaernïaeth felly’r cyrchfan cyntaf mwyaf tebygol i raddedigion yw gwaith fel cynorthwyydd pensaernïol* mewn practis pensaernïol.
Mae yna lawer o gyfleoedd gwaith posibl eraill gan gynnwys rhannau eraill o’r diwydiant adeiladu (contractwyr adeiladu ac is-adeiladwyr), y diwydiannau creadigol (cymhwyso darlunio cyfrifiadurol a sgiliau delweddu) a chynllunio neu ddylunio trefol.
Sgiliau graddedig a ddatblygir gan y rhaglen (wedi’i seilio ar y ‘rhinweddau graddedigion’ a amlinellir yn meini prawf RIBA/ARB ar gyfer dilysu/rhagnodi cymwysterau mewn pensaernïaeth a datganiad meincnod QAA ar gyfer pensaernïaeth.)
- Y gallu i gynhyrchu cynigion dylunio gan ddefnyddio dealltwriaeth o gorff o wybodaeth, peth ohono ar ffiniau presennol arfer proffesiynol a disgyblaeth academaidd pensaernïaeth;
- Y gallu i gymhwyso ystod o ddulliau cyfathrebu a chyfryngau i gyflwyno cynigion dylunio presennol yn glir ac yn effeithiol;
- Dealltwriaeth o’r defnyddiau, prosesau a thechnegau amgen sy’n berthnasol i ddylunio pensaernïol ac adeiladu adeiladau;
- Y gallu i werthuso tystiolaeth, dadleuon a thybiaethau er mwyn gwneud a chyflwyno dyfarniadau cadarn o fwn trafodaeth strwythuredig yn ymwneud â diwylliant, damcaniaeth a dyluniad pensaernïol;
- Gwybodaeth o gyd-destun y diwydiant pensaer ac adeiladu a’r rhinweddau proffesiynol sydd eu hangen i wneud penderfyniadau mewn amgylchiadau cymhleth ac annaroganadwy.
- Y gallu i adnabod anghenion dysgu unigol a deall y cyfrifoldeb personol sydd ei angen am addysg broffesiynol bellach.
(* y term ‘cynorthwyydd pensaernïol’ yw teitl swydd y rheiny sydd ar y llwybr i gymhwyster proffesiynol fel pensaer nes cwblhau Rhan Tri. Efallai na fydd termau fel ‘pensaer cynorthwyol’, ‘pensaer dan hyfforddiant’ neu ‘bensaer rhan 1’ eu defnyddio gan fod y teitl ‘pensaer’ wedi’i amddiffyn gan statud a chaiff ond ei ddefnyddio gan y rheiny sydd ar y Gofrestr Penseiri (ar wahân i dri eithriad a nodir yn y Ddeddf Penseiri: ‘pensaer llyngesol’, ‘pensaer tirlun’ a ‘phensaer meysydd golff’).