Pensaernïaeth, Adeiladu ac Amgylchedd
Adeiladu dyfodol cynaliadwy, deallus a gwydn gyda’n graddau arbenigol.
Ymunwch â chenhedlaeth newydd o ddatryswyr problemau sy’n llunio sut rydym yn dylunio, adeiladu a gofalu am y byd o’n cwmpas. Mae ein rhaglenni’n rhychwantu meysydd cysylltiedig Pensaernïaeth, Adeiladu achynaliadwyedd amgylcheddol, gan roi’r wybodaeth a’r profiad ymarferol i chi greu effaith ystyrlon.
Archwiliwch sut mae adeiladu, seilwaith a systemau naturiol yn cydweithio drwy ein graddau BSc Pensaernïaeth, Rheolaeth Adeiladu, Mesur Meintiau a Pheirianneg Sifil. Mae’r rhaglenni hyn yn cyfuno creadigrwydd, arbenigedd technegol, a phrofiad byd go iawn, gan eich paratoi i ddylunio gofodau arloesol, rheoli prosiectau adeiladu, a chyfrannu at ddyfodol yr amgylchedd adeiledig.
Os ydych yn angerddol am fynd i’r afael â heriau amgylcheddol byd-eang, mae ein BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yn eich grymuso i ddylanwadu ar bolisi, gyrru datrysiadau cynaliadwy a chefnogi prosesau gwneud penderfyniadau sy’n gadarnhaol ar ran yr hinsawdd. Ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn datrysiadau peirianneg cynaliadwy sy’n cefnogi byd carbon isel, mae BEng Ynni a Pheirianneg Amgylcheddol yn cyfuno hanfodion peirianneg gyda gwyddor amgylcheddol i’ch helpu i ddylunio systemau ynni adnewyddol a seilwaith gwydn.
Mae dysgu ymarferol wrth wraidd o’r hyn rydym yn ei wneud ar draws pob llwybr - o labordai i weithdai i waith maes a phrosiectau sy’n ymgysylltu â diwydiant. Pa bynnag gyfeiriad rydych yn ei ddewis, byddwch yn graddio gyda’r sgiliau, yr hyder a’r mewnwelediad i arwain mewn gyrfaoedd ymgynghori, adeiladu, arloesi amgylcheddol ac arweinyddiaeth gynaliadwy.
Lluniwch y byd rydym yn byw ynddo a’r dyfodol sy’n datblygu gyda gradd sy’n alinio’ch uchelgais â newid yn y byd go iawn.
Pam astudio Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd yn PCYDDS?
Clearing
Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored
Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol.
Architecture, Construction & Environment
Astudiwch yn PCYDDS a lluniwch ddyfodol cynaliadwy. Mae ein graddau mewn Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol, Pensaernïaeth, Rheolaeth Adeiladu, Mesur Meintiau a Pheirianneg Sifil yn cyfuno arbenigedd technegol, creadigrwydd a phrofiad ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn arweinyddiaeth cynaliadwyedd, ymgynghoriaeth, ac arloesedd adeiladu.
Rhaglenni Pensaernïaeth
BSC / MA Pensaernïaeth - graddau achrededig ARB, rydym yn cynnig llwybrau israddedig ac ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth, sy’n caniatáu i chi symud ymlaen tuag at gymhwyster pensaer proffesiynol, a hynny oll o fewn un sefydliad. Mae ein graddau’n cyfuno creadigrwydd ag arbenigedd technegol gan eich grymuso i ddylunio gofodau cynaliadwy, ymarferol ac ysbrydoledig. Paratoir Graddedigion am yrfaoedd mewn dylunio pensaernïol, cynllunio trefol, a datblygu prosiectau - gan greu amgylcheddau sy’n gwella bywyd modern ac yn ei gyfoethogi.
Rhaglenni Adeiladu
Mae ein graddau BSc (Anrh) Adeiladu, BSc (Anrh) Mesur Meintiau a BSc (Anrh) Peirianneg Sifil yn eich paratoi i lunio dyfodol yr amgylchedd adeiledig. Byddwch yn datblygu’r sgiliau technegol, rheolaethol ac ariannol i arwain prosiectau cynaliadwy, rheoli costau’n effeithiol a dylunio seilwaith gwydn. Gyda ffocws cryf ar arloesi a chynaliadwyedd, mae graddedigion yn cael eu paratoi’n dda ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sectorau adeiladu, peirianneg ac eiddo.
Rhaglenni Amgylcheddol
Gyrrwch newid cadarnhaol gyda’n graddau BSc (Anrh) Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd a BEng (Anrh) Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol. Mae’r rhaglenni hyn wedi’u cynllunio ar gyfer y rheiny sy’n angerddol am greu dyfodol mwy gwyrdd a mwy gwydn. Byddwch yn archwilio heriau cynaliadwyedd byd eang, polisi hinsawdd ac atebion ynni adnewyddadwy, gan ennill profiad ymarferol drwy labordai, gwaith maes a phrosiectau diwydiant. Mae graddedigion yn symud ymlaen i rolau mewn ymgynghoraeth amgylcheddol, peirianneg ynni, polisi ac arweinyddiaeth gynaliadwyedd sydd wedi’u cyfarparu i helpu i arwain y newid i fyd carbon isel.
Spotlights
Cyfleusterau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth
Mae mannau stiwdio penodedig ar gael yn ein Hardal Arloesi bwrpasol yng nghanol cymuned llawn addewid SA1 Abertawe. Bydd myfyrwyr yn cael mynediad i weithfannau pwrpasol â chyfrifiaduron personol o fewn y stiwdio gyda phecynnau meddalwedd fel AutoCAD, Revit, Sketchup a’r casgliad llawn o raglenni Adobe CCS gyda phlotyddion A1 cysylltiedig.
Gall myfyrwyr gael mynediad at gyfleusterau gweithdy gyda chyfleusterau gwneud modelau traddodiadol a chyfrifiadurol amrywiol, fel argraffwyr 3D a thorri laser. Gyda chefnogaeth gan *CWIC*, bydd gennych fynediad at ddatblygu technolegau fel dronau ac offer Realiti Rhithwir.
Cyfleusterau Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd
Gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf, yn cynnwys labordai amgylcheddol ac adnoddau ar gyfer gwaith maes, bydd gennych fynediad i brofiadau dysgu ymarferol. Mae ein hamgylchoedd hardd, o benrhyn eithriadol Gŵyr i’r Bannau Brycheiniog syfrdanol, yn cynnig y gefnlen berffaith ar gyfer dysgu ac archwilio.